Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Ydych chi’n gosod eiddo yng Nghymru?

Ydych chi’n gosod eiddo yng Nghymru?

Bellach mae’r gyfraith yn dweud fod rhaid i landlordiaid ac asiantau fod wedi’u cofrestru neu eu trwyddedu.  Mae deddf newydd – Deddf Tai (Cymru) 2014 – wedi cael ei chyflwyno yng Nghymru ac mae’n berthnasol i bob landlord ac asiant sy’n gosod eiddo preifat.  Os ydych yn berchen ar eiddo sy’n cael ei rentu, yn gofalu am neu’n byw mewn eiddo preifat  wedi’i rentu, yna bydd y ddeddf hon yn effeithio arnoch chi.

 Ydych chi’n landlord?

Os ydych yn ateb Ydw i’r cwestiynau canlynol yna bydd angen i chi gofrestru fel landlord:

  • Ydych chi’n berchennog eiddo preswyl nad ydych yn byw ynddo?

  • Ydych chi’n gadael i rywun arall fyw ynddo?

  • Ydych chi’n cael arian oherwydd eu bod yn byw ynddo?

 

Mae cofrestru yn gyflym ac yn hawdd.  Gallwch gofrestru ar-lein drwy fynd i rentsmart neu gallwch ffonio 03000 133 344 a gofyn am ffurflen bapur.

Ydych chi’n gofalu am eiddo sy’n cael ei osod?

Os ydych yn ateb YDW i’r cwestiynau canlynol yna bydd angen i chi wneud cais am drwydded:

  • Ydych chi’n landlord sy’n gofalu am  eich eiddo eich hun?

  • Ydych chi’n asiant sy’n gosod ac yn gofalu am eiddo ar ran landlordiaid?

  • Ydych chi’n ffrind, yn aelod o deulu neu’n gyfaill i landlord ac yn gofalu am eu heiddo ar eu rhan?

Gallwch gyflwyno cais am drwydded ar-lein drwy fynd I rentsmart neu ffonio 03000 133 344.

I gael rhagor o fanylion ewch i www.rentsmart.gov.wales neu cliciwch yma.

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen