Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Pwy sydd yn cynnau tanau'n fwriadol?

Pwy sydd yn cynnau tanau'n fwriadol?

Cyngor i rieni

Yn aml iawn mae plant yn awyddus i gael gwybod mwy am dân a fflamau.  Cymaint yw'r diddordeb sydd gan rai plant tuag at dân eu bod yn fodlon peryglu eu bywydau  a rhoi bywydau pobl eraill yn y fantol.  Os oes gennych gyfrifoldeb dros blentyn, yn ôl y gyfraith chi sy'n gyfrifol os yw'r plentyn hwnnw'n troseddu.  Felly, os ydych yn poeni bod eich plentyn yn cynnau tanau bwriadol, mae'n rhaid i chi wneud rhywbeth i fynd i'r afael â'r broblem.

Mae gan y Gwasanaeth ddau gynllun ymyrraeth sydd ar gael i losgwyr ifanc -

FACE - 3-11 oed
Fire Safe - 11-18 oed

Mae'r ddau gynllun yn helpu plant a phobl ifanc  i ddeall a rheoli eu teimladau a'r sefyllfaoedd a arweiniodd at gynnau tanau bwriadol. Ar yr un pryd byddwn yn eu haddysgu am ddiogelwch tân. Mae ein hymgynghorwyr hyfforddedig yn gweithio i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru; gan amlaf maent yn gweithio gyda phartner a byddant yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth, cyngor a hyfforddiant i chi a'ch plentyn.

Mae FACE fel arfer yn cynnwys dwy sesiwn yn y cartref. Mae Fire Safe yn cynnwys 1-10 sesiwn ac maent fel arfer wedi eu cynnal ar un o safleoedd y gwasanaeth tân ac achub ac wedi eu teilwra i anghenion penodol yr unigolyn.  Maent weid eu darparu ar gyfer llosgwyr risg isel-canolig.

Beth all rhieni ei wneud?

Yn aml iawn mae teuluoedd yn gyndyn o wneud dim byd os ydynt yn meddwl (neu'n gobeithio) mai dyma fydd yr unig ddigwyddiad. Weithiau mae teuluoedd yn anwybyddu'r math yma o ymddygiad.Fodd bynnag, mae'n bwysig ein bod yn ymyrryd yn achos POB plentyn sydd yn chwarae gyda thân neu yn cynnau tanau'n fwriadol.  Mae hyd yn oed blant ifanc iawn sydd yn awyddus i gael gwybod mwy am dân angen cael eu haddysgu am y peryglon fel na fyddant yn parhau i chwarae â thân yn y dyfodol ac yn tyfu i fyny i fod yn llosgwyr.

Dyma bethau penodol y gall rhieni eu gwneud:

Bod yn onest

Siaradwch gyda'ch plentyn fel eu bod yn deall beth mae'r gyfraith yn ei ddweud.  Gallant gael eu herlyn am gynnau tanau bwriadol.  Mae cynnau tanau bwriadol yn drosedd ddifrifol sydd yn gallu dinistrio eiddo, anafu eraill neu ladd.

Gosod esiampl dda

Mae'r rhan fwyaf o bobl ifanc yn dysgu am dân drwy gymryd sylw o'r oedolion sydd o'u cwmpas (rhieni gan amlaf).  Os nad yw'r oedolyn yn dangos parch tuag at dân, mae perygl na fydd y plentyn yn ei barchu ychwaith.

Cael gafael ar danwyr a matsis

Cadwch fatsis a thanwyr mewn man diogel, ymhell o gyrraedd plant ifanc.  Cadwch hwy dan glo os oes raid.

Dod o hyd i gymorth

Am wybodaeth neu gyngor gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru cysylltwch â'r Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol ar 0300 123 6698

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen