
Croeso gan y Prif Swyddog Tân
Byddwch yn gogydd diogel!
Mae mwy o danau yn cychwyn yn y gegin nag unrhyw ystafell arall yn y tŷ. Am y rheswm hwn, rwyf yn erfyn ar i drigolion gadw llygaid ar fwyd sydd yn coginio i atal trychinebau yn y gegin.
Mae twrnamaint rygbi’r chwe gwlad yn cychwyn fis yma, a bydd cefnogwyr yn mwynhau’r gêm dros beint yn y dafarn neu ychydig o ganiau yn y cartref. Teimlaf felly ei bod hi’n briodol i mi eich atgoffa am beryglon yfed a choginio.
Dro ar ôl tro mae ein diffoddwyr tân yn cael eu galw i danau yn y cartref yn y rhanbarth sydd wedi cychwyn ar ôl i drigolion golli canolbwyntiad yn y gegin ar ôl bod yn yfed, ac mae hyn wedi arwain at ganlyniadau trasig ar adegau.
Dydy yfed a choginio ddim yn gyfuniad doeth
Cofiwch, dydy yfed a choginio ddim yn gyfuniad doeth – gallwch osgoi gwneud cawlach o bethau yn y gegin drwy baratoi brechdan cyn mynd allan neu brynu tecawê. Fe allai hyn achub eich bywyd.
Hefyd, gyda dyddiadau pwysig fe Dydd San Ffolant, Wythnos Genedlaethol Sglodion a Dydd Mawrth Crempog fis yma, dwi’n siŵr y bydd nifer ohonoch yn creu stŵr yn y gegin.
Sefwch wrth eich sosban!
Un mantra pwysig yr hoffwn ei ailadrodd yw ‘Sefwch wrth eich sosban!’ - os oes raid i chi adael y gegin, tynnwch y sosban oddi ar y gwres. Fe all tân gynnau a lledaenu i fod yn dân sylweddol mewn ychydig funudau. Ar ôl i chi orffen coginio, gwnewch yn siŵr eich bod wedi diffodd yr holl gyfarpar a bod yr ardal goginio yn glir.
Un enghraifft o ganlyniadau coginio wedi cael ei adael oedd tân a ddigwyddodd mewn fflat yng Nghaernarfon ym mis Gorffennaf y llynedd, lle cafodd y preswylydd driniaeth am anadlu mwg. Gyda diolch cafodd ei rybuddio am y tân gan ei larymau mwg – fel arall, fe allai’r canlyniad fod wedi bod yn llawer gwaeth. Cewch ddarllen mwy am y tân yma.
Mae hefyd yn hawdd iawn troi cyfarpar ymlaen yn ddamweiniol – cafodd un dyn ei gludo i’r ysbyty a chafodd dynes driniaeth ragofalol yn dilyn tân ym Mae Colwyn ym mis Mehefin y llynedd. Roedd y tân wedi ei achosi gan dân o bopty wedi i’r hob gael ei droi ymlaen yn hytrach na’r popty. Darllenwch fwy am y digwyddiad yma.
Darllenwch fwy yma
Newyddion diweddaraf
- Postiwyd 23/02/2019 08:35:56 Darllen
-
Ffenics yn ysbrydoli pobl ifanc Conwy
Postiwyd 22/02/2019 14:36:41 Darllen -
Amlygu pwysigrwydd gosod larymau mwg ar bob llawr yn y cartref yn dilyn tân ym Mae Penrhyn
Postiwyd 21/02/2019 17:11:57 Darllen -
Cludo teulu o bedwar i’r ysbyty yn dilyn tân yn eu cartref
Postiwyd 02/02/2019 17:38:52 Darllen -
Tân mewn ysgubor yn Nhrefnant
Postiwyd 02/02/2019 15:39:35 Darllen -
Ffenics yn ysbrydoli pobl ifanc Gwynedd
Postiwyd 31/01/2019 16:29:30 Darllen -
Amlygu pwysigrwydd larymau mwg yn dilyn tân trydanol ar Ynys Môn
Postiwyd 28/01/2019 15:12:21 Darllen