
Y Pwyllgor Safonau
Swydd Wag - Aelod Annibynnol
Annibynnol? Safonau Uchel?
Oes gennych chi ddiddordeb brwd mewn safonau ym mywyd cyhoeddus a dymuniad i wasanaethu’r gymuned leol a chynnal democratiaeth leol?
Mae gan Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru swydd wag ar gyfer aelod annibynnol i wasanaethu ar ei Bwyllgor Safonau. Nod y Pwyllgor Safonau yw hyrwyddo, cynnal a gwella safonau ymddygiad aelodau’r Awdurdod. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu dangos ei fod yn wrthrychol, annibynnol a diduedd, a gyda sgiliau da o ran gwrando a gweithio mewn tîm.
Yn ychwanegol at hawlio ad-daliad am deithio a chynhaliaeth, mae aelodau hefyd yn gallu hawlio ffî o £99 am hanner diwrnod a £198 am ddiwrnod cyfan
Os hoffech mwy o wybodaeth cysylltwch â
Alwen Davies
Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru
Ebost: alwen.davies@gwastan-gogcymru.org.uk
Ffôn: 01745 535286
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 9am, 1 Mawrth 2019
Sefydlwyd y Pwyllgor Safonau yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol 2000, a gosodwyd ei Gylch Gwaith yn 2003. Mae ei ddyletswyddau'n cynnwys ystyried cwynion yn erbyn aelodau'r Awdurdod sy'n cael eu cyfeirio ato gan yr Ombwdsmon a chaniatáu gollyngiadau. Mae hefyd yn cynghori'r Awdurdod ar faterion yn ymwneud â safonau.
Mae'r pwyllgor yn cynnwys 6 aelod, a phedwar ohonynt yn annibynnol. Ni all y cynrychiolwyr sydd o blith yr Awdurdod Tân ac Achub fod yn rhai sydd â swydd ar yr Awdurdod. Mae'r Cadeirydd a'r Dirprwy Gadeirydd yn dod o blith yr aelodau annibynnol.
Rhaid i'r pwyllgor gyfarfod o leiaf unwaith y flwyddyn, ond fe allant gyfarfod yn amlach os oes angen.
Cliciwch yma i weld Cylch Gwaith y Pwyllgor
Aelodaeth y Pwyllgor
Aelodau Annibynnol
S Ellis
J Hughes
A P Young
Cynrychiolwyr o Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru
Y Cynghorydd D Rees
Y Cynghorydd W O Thomas