Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Dinbych

Gorsaf Dân Dinbych
Ffordd SmithfieldDenbigh
Dinbych
LL16 3RG
Ffôn: 01745 535 250

 

Manylion y Criw:

Mae Gorsaf Dân Dinbych yn rhan o'r System Dyletswydd yn Ôl y Galw.

Mae Diffoddwyr Tân y System Dyletswydd yn Ôl y Galw yn unigolion medrus iawn sydd gan swyddi cyffredin o ddydd i ddydd, ond sydd hefyd ar gael i ymateb i alwadau gyda'r nos, yn ystod  y dydd ac/neu ar benwythnosau.

Yr Ardal Ddaearyddol a Wasanaethir:

O Ddinbych i Fodfari, Afonwen, Llanrhaeadr a Threfnant a Mynydd Hiraethog.

Safleoedd o  risg:

Ysbyty Gogledd Cymru, Hufenfa Llandyrnog, ysbytai lleol, Ystâd Ddiwydiannol Dinbych a'r goedwigaeth leol.

Hanes yr Orsaf:  

Yn wreiddiol wedi ei leoli yn Neuadd y Dref, fe agorwyd yr orsaf bresennol gan Arolygydd Ei Mawrhydi yn 1972. Cyn uniad 1996, roedd Dinbych yn rhan o Wasanaeth Tân Sir Ddinbych a Sir Drefaldwyn.

Gwaith yn y gymuned:

Mae'r criwiau yn mynychu sioeau lleol yn flynyddol ac y mae Sir Ddinbych wedi bod yn gartref i'r Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith.  Maent hefyd yn cymryd rhan yn y Diwrnodau Golchi Ceir Cenedlaethol  i godi arian i Elusen y Diffoddwyr Tân.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen