Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Yr Ystafell Reoli

Ar flaen y gad o ran gweithrediadau 999

Mae'r Ganolfan Gyfathrebiadau ar y Cyd yn bwynt cyswllt hanfodol rhwng y cyhoedd sydd mewn angen a'n timau argyfwng.

Pan fydd rhywun yn yr ardal yn ffonio 999/112 ac yn gofyn am y gwasanaeth tân ac achub, byddant yn cael eu trosglwyddo i'r Ganolfan Gyfathrebiadau ar y Cyd yn Llanelwy.

Mae'r Ganolfan Gyfathrebiadau ar y Cyd yn gyfleuster ar y cyd lle mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn rhannu llawr gweithredol gyda Heddlu Gogledd Cymru.  Fe agorwyd y cyfleuster hwn, sydd yn unigryw yn y DU,  ym mis Hydref 2008, ac achub bywydau a lleihau anafiadau difrifol oedd y brîf sbardun y tu ôl i'r ganolfan.  Mae'n cynrychioli dull arloesol o weithio ar y cyd, gan roi Gogledd Cymru ar flaen y gad o ran gweithrediadau 999.

 

Mae cyfathrebu yn allweddol o safbwynt gwneud penderfyniadau wrth ymateb i ddigwyddiadau brys  ac mae hyn yn cael ei wella oherwydd bod gennym ddealltwriaeth well o sut mae'r gwahanol wasanaethau yn gweithio.

Mae'r cyfleuster yn  galluogi staff y ddau sefydliad i weithio'n agos gyda'i gilydd a chydlynu eu hymateb i gymunedau'r Gogledd - mae'r dull aml-asiantaethol hwn yn golygu bod y gwasanaethau erial yn cael gwybod am ddigwyddiadau yn gynharach  sydd yn arwain at  anfon adnoddau i ddigwyddiadau yn gynt.

Staff yr Ystafell Reoli sy'n gyfrifol am anfon y criwiau a'r peiriannau tân allan o'r 44 o orsafoedd tân yn yr ardal, ynghyd ag unrhyw offer arbenigol sydd ei angen.

Mae'r staff yn ymdrin â tua 108,000 o alwadau bob blwyddyn, ac mae tua 17,000 'r rhain yn alwadau brys, a llawer yn rhai sy'n ymwneud â sefyllfaoedd sy'n bygwth bywydau. Mae'r gweithredwyr wedi cael eu hyfforddi i ddelio â phobl sy'n sownd yn rhywle ac angen cymorth i aros yn fyw. Mae yna alwadau eraill sy'n llai difrifol ond sydd hefyd yn peri gofid ac ofn.

Mae'r galwadau brys yn ymwneud ag amryw o wahanol ddigwyddiadau, megis tanau, damweiniau ar y ffyrdd, digwyddiadau lle mae deunyddiau peryglus, llifogydd a mwy.

 

Mae gennym offer rheoli a meistroli o'r radd flaenaf sy'n cynnwys y dechnoleg fwyaf diweddar ar gyfer anfon peiriannau i ddigwyddiadau a chyfathrebu.  

Mae staff yn yr Ystafell Reoli bedair awr ar hugain y dydd, bob dydd o'r flwyddyn. Mae'r staff yn gweithio mewn timau gyda thechnoleg gwybodaeth soffistigedig i'w cynorthwyo i ddelio gyda galwadau brys ac anfon yr adnoddau cyflymaf a mwyaf priodol o'n gorsafoedd tân i unrhyw le yn y Gogledd.

 Mae'n rhaid i staff yr Ystafell Reoli feddu ar ystod eang o sgiliau ac mae'n hanfodol eu bod yn gallu meddwl yn sydyn a rhoi cyfarwyddiadau'n gywir. Mae angen iddynt drin data cynhwysfawr ar gyfer ystod eang o bynciau megis digwyddiadau brys, argaeledd adnoddau a gwybodaeth risg.

Yn ogystal ag ymateb i alwadau 999 ac anfon y peiriannau tân allan i ddigwyddiadau, maent hefyd yn cyflawni amrywiaeth o ddyletswyddau a rhaid iddynt fod yn graff a bod mewn cysylltiad ag aelodau'r gwasanaeth, asiantaethau eraill, y cyhoedd a'r cyfryngau.

Mae'r tri Gwasanaeth Tân ac Achub yng Nghymru wedi cydweithio i wella cydnerthedd, capasiti a chydweithio rhwng y tair Ystafell Reoli yng Nghymru, sydd wedi arwain at drefniadau gwell ar gyfer digwyddiadau catastroffig neu lu o ddigwyddiadau, sy'n golygu y gallwn alw am gefnogaeth gan un o'r Ystafelloedd Rheoli eraill ar gyfer trin a phrosesu galwadau 999 gan y cyhoedd.


 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen