Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Addysgwr Diogelwch Cymunedol

Enw: Emma

Rôl: Addysgwr Diogelwch Cymunedol

Ychydig bach am fy rôl…

Fel addysgwr diogelwch cymunedol rydw i’n siarad gyda chymunedau yng Ngogledd Cymru am beryglon tanau, canlyniadau tanau a sut i atal tanau a beth i’w wneud os bydd tân yn digwydd.

Beth ydi’ch gweithgareddau ar ddiwrnod arferol?

Fel rhan o strategaeth Cymru gyfan rydym yn ymweld â phob ysgol yng Ngogledd Cymri i rannu ein negeseuon diogelwch. Fel arfer rydym yn ymweld â phlant blwyddyn 2 mewn ysgolion cynradd i drafod peryglon chwarae gyda matsis a phlant blwyddyn 5 i drafod pwysigrwydd larymau mwg a chynlluniau dianc. Weithiau rydym yn cymryd rhan mewn gwasanaethau boreol a hyd yn oed yn ymweld â phlant meithrin i drafod rôl y gwasanaeth tân ac achub a rhoi cyfle iddynt wisgo cit tân!

Rydym hefyd yn ymweld ag ysgolion uwchradd i ryngweithio gyda phobl ifanc a dangos ffilmiau byr am ddiogelwch tân a chanlyniadau cynnau tanau yn fwriadol - felly mae hyn yn golygu llawer iawn o waith teithio o amgylch Gogledd Cymru.

Rydw i hefyd yn mynychu sioeau ac eisteddfodau i hybu diogelwch tân.

Beth ydych chi’n ei fwynhau am eich gwaith?

Rydw i’n mwynhau rhyngweithio gyda’r plant ac yn eu gweld wedi cynhyrfu'n lân wrth drio’r cit tân ymlaen! Dwi’n mwynhau gwrando ar eu cwestiynau gan nad ydi rhywun byth yn siŵr beth fyddan nhw’n ei ofyn. Y cwestiwn mwyaf cyffredin ydi ‘Beth fydd yn digwydd os byddwch yn rhedeg allan o ddŵr?’

Dwi’n mwynhau’r ffaith fy mod yn gallu rhannu negeseuon y gwasanaeth tân ac achub gyda chymaint o blant â phosibl.

Pam wnaethoch chi ddewis hyn fel gyrfa?

Ro’n i’n athrawes am 10 mlynedd ac roeddwn i eisiau chwarae rôl bositif mewn addysg o hyd a chael rhyngweithio gyda phlant.

Pa gymwysterau neu brofiad sydd ei angen i wneud y gwaith?

Mae angen cefndir mewn addysg gan fod yn rhaid creu cynlluniau gwersi a dilyn y maes llafur.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sydd yn awyddus i ddilyn hyn fel gyrfa?

Ar gyfer y rôl yma mae’n rhaid i chi fwynhau rhyngweithio gyda phlant a’r gymuned yn gyffredinol ac o ganlyniad mae angen synnwyr digrifwch da arnoch!

 

 

 

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen