Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Rheolwr Gwylfa A - Ystafell Reoli/Diffoddwr Tân System Dyletswydd Rhan Amser (RDS)

Enw: Dafydd

Rôl: Rheolwr Gwylfa A - Ystafell Reoli/Diffoddwr Tân System Dyletswydd Rhan Amser (RDS)

 

Ychydig bach am fy rôl…

Yn fy rôl fel Rheolwr Gwylfa yn yr ystafell reoli, mae fy nyletswyddau yn cynnwys goruchwylio’r Ystafell Reoli o ddydd i ddydd.

Mae pob diwrnod yn wahanol, oherwydd natur ddeinamig y swydd ac oherwydd ein bod yn wasanaeth lled wledig ac oherwydd bod argaeledd ein gorsafoedd RDS yn newid yn barhaus.

Rydw i yn Ddiffoddwr Tân RDS, yn ymateb i ddigwyddiadau yn fy ardal.

Beth ydi’ch gweithgareddau ar ddiwrnod arferol?

Mae pob diwrnod yn cychwyn gyda phaned o de!

Yn yr Ystafell Reoli, drwy gydol y diwrnod un o fy nghyfrifoldebau ydi cynnal y gwasanaeth tân – rydw i bob amser yn gwirio’r sgrin gyflwr a Gartan i wneud yn siŵr bod y ddarpariaeth tân yn ddigonol ledled Gogledd Cymru. Rydym yn cydlynu gyda’r rheolwr argaeledd drwy gydol y sifft, ac yn amlygu unrhyw broblemau gyda chriwio mewn ymgais i wneud yn siŵr bod y gorsafoedd ar gael. Mae hyn yn sefyllfa ddeinamig oherwydd natur y sifftiau RDS, ac mae argaeledd staff yn newid yn barhaus. Mae staff yr ystafell reoli yn sicrhau bod darpariaeth ar gael ac mae hyn weithiau yn golygu symud adnoddau a phersonél hyd orau ein gallu.

Pan fydd galwad 999 yn cael ei derbyn, fy ngwaith i ydi goruchwylio’r alwad , trwy wrando ar yr alwad a gwylio’r manylion sy’n cael ei gyflwyno ar y sgrin digwyddiad newydd. Fy ngwaith i ydi rhybuddio’r criwiau ymlaen llaw gan ddibynnu ar y math o ddigwyddiad y maent yn mynd ato, er mwyn rhoi mantais iddynt wrth i’r derbynnydd galwadau gael rhagor o fanylion. Fe all hyn hefyd fy ngalluogi i asesu a ydi’r digwyddiad am ddatblygu neu waethygu a dechrau rhoi gwybod i’r rheolwyr perthnasol.

Rydym yn rhannu cyfleusterau gyda Heddlu Gogledd Cymru, a phan rydw i yn gyfrifol rydw i’n eistedd yn ymyl Rheolwr Digwyddiadau’r Heddlu a chlinigwr o WAST, ac mae hyn yn rhoi cymorth amhrisiadwy i mi i gael gafael ar adnoddau neu gyngor pellach pan fydd angen. Rydym yn cydlynu gyda’n gilydd i helpu’n gilydd, chwilio am bobl ar goll, neu yn ystod digwyddiadau sy’n datblygu.

Mae bod yn ddiffoddwr tân wedi rhoi mewnwelediad i mi o’r swydd, ac mae hyn wedi bod yn amhrisiadwy. Rydw i’n gallu addysgu diffoddwyr tân eraill am rôl staff yr Ystafell Reoli a chodi ymwybyddiaeth ymysg staff yr Ystafell Reoli am fod yn rhan o ddigwyddiadau gweithredol.

Pan fydd gweithdrefnau neu ymarferion newydd yn cael eu rhoi ar waith, rydw i’n gallu gweld pethau o bersbectif y criwiau RDS ac egluro’r rhesymeg dros pam mae pethau’n digwydd fel ac y maent o bersbectif yr Ystafell Reoli.

 

Beth ydych chi’n ei fwynhau am eich gwaith?

Rydw i’n mwynhau bod yn rhan o dîm agos, yn gweithio gyda technoleg gwybodaeth a’r cyffro o ddelio gyda digwyddiadau gweithredol a pheidio byth â gwybod beth fydd yn rhaid i ni ddelio gydag o nesaf. Rydw i’n cael boddhad mawr unwaith y mae digwyddiad wedi cael ei adfer yn llwyddiannus.

Pam wnaethoch chi ddewis hyn fel gyrfa?

Roedd gyrfa gyda’r gwasanaeth tân ac achub i’w weld yn gyffrous a diogel iawn, gyda rhagolygon gyrfa a thâl da, ac roedd y cyfle i weithio gydag a helpu cymunedau yng Ngogledd Cymru hefyd yn apelio.

Pa gymwysterau neu brofiad sydd ei angen i wneud y gwaith?

Ar gyfer rôl yn yr ystafell reoli, mae angen addysg o safon dda, gan gynnwys y gallu i gyfathrebu’n rhugl. Mae cefndir ym maes TGCh yn fuddiol gan ein bod yn defnyddio technoleg gwybodaeth ym mhob agwedd o’n gwaith, ac mae’n angenrheidiol eich bod yn gallu defnyddio meddalwedd Microsoft.

Mae profiad o amlorchwyl neu flaenoriaethu llwyth gwaith, a’r gallu i weithio dan bwysau mewn amgylchedd disgybledig yn angenrheidiol.

Yn realistig, mae angen synnwyr cyffredin hefyd, yn ogystal â’r gallu i weithio gydag eraill.

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sydd yn awyddus i ddilyn hyn fel gyrfa?

Mae etheg gwaith gref yn fan cychwyn da, gan ein bod yn dibynnu ar ein gilydd i weithio fel tîm ac mae’n angenrheidiol bod ein haelodau tîm yn ddibynadwy, galluog a brwdfrydig.

Rydym yn gweithio oriau anghymdeithasol gan gynnwys gyda’r nos ac ar benwythnosau ac rydym yn treulio llawer iawn o amser gyda’n gilydd.

O siarad yn bersonol, mi fuaswn yn cynghori darpar ymgeiswyr i wneud yn siŵr eu bod yn rhugl yn Gymraeg a Saesneg, gallu defnyddio cyfrifiadur a gweithio dan bwysau.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen